Mae'r papur briffio hwn wedi'i baratoi i gefnogi gwaith y Pwyllgor wrth drafod dwy ddeiseb yn ymwneud â’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya – un yn cefnogi'r polisi a'r llall yn galw am ei ddiddymu.

 

Deiseb 1

 

Rhif y ddeiseb: P-06-1407

 

Teitl y ddeiseb: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

 

Geiriad y ddeiseb: Bydd y gyfraith newydd ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar 17 Medi, a chyda hynny y gwelir diwedd ar gyfnod sosialaeth mewn grym yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddi dystiolaeth sy’n ategu’r ddadl bod gostwng y terfyn cyflymder i 20mya YM MHOB MAN yn achub bywydau! Ac eto, rydym yn gweld taflenni sydd ond yn honni y bydd hyn yn digwydd, ynghyd â sylwadau gan feddygon sy’n gweld pobl sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. NID yw hyn yn dystiolaeth. Daw’r unig wir dystiolaeth o Belfast, ac mae'r dystiolaeth honno’n datgan NAD OES DIM GWAHANIAETH o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd!

 

Yn wir, gwnaeth un o'r pentrefi yn Sir Fynwy lle cafodd y drefn newydd ei threialu roi’r gorau iddi gan ei bod yn troi’r ffyrdd yn draed moch llwyr! Mae Mark Drakeford wedi honni bod y drefn newydd wedi bod yn llwyddiant yn Saint-y-brid, ond bob tro dwi'n mynd yno, nid oes NEB yn gyrru ar gyflymder o 20mya.

 

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu UNRHYW dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi'r honiadau ynghylch diogelwch. Adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo'r gyfraith newydd hon, NID iechyd a diogelwch.

NID YDYCH WEDI GWRANDO ARNOM.

 

Rhoddwyd Llywodraeth Cymru yn ei lle GAN BOBL CYMRU; ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal.

 

Deiseb 2

 

Rhif y ddeiseb: P-06-1412

 

Teitl y ddeiseb: Rydym am i Lywodraeth Cymru gadw’r gyfraith 20mya ardderchog

 

Geiriad y ddeiseb: Rwy’n cytuno â’r terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws Cymru. Bydd yn gwneud ein strydoedd yn llawer mwy diogel i gerddwyr a beicwyr.

 


1.        Y cefndir

Yn 2019, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a ddylid cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Ym mis Gorffennaf 2020, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y grŵp, gan gynnwys y dylid lleihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun peilot mewn wyth cymuned, gosododd Llywodraeth Cymru y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) ym mis Mehefin 2022. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022 a daeth i rym ym mis Medi 2023.

Mae’r polisi wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac mae’r ddeiseb sy’n galw am ‘ddiddymu’r’ ddeddfwriaeth wedi casglu dros 469,000 o lofnodion – y nifer uchaf erioed o lofnodion ar gyfer deiseb i’r Senedd.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y gorffennol ynghylch:

§  y polisi a'r ymateb iddo yn y cyfnod cyn ei gyflwyno'n genedlaethol;

§  y broses o weithredu’r polisi ac effeithiolrwydd terfynau cyflymder 20mya; a

§  sut y bydd y polisi yn cael ei orfodi a'i fonitro

Effaith terfynau cyflymder 20mya mewn mannau eraill

Yn hanesyddol, mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd terfynau cyflymder o 20mya wedi bod yn gymysg. Canfu adroddiad ar effeithiolrwydd terfynau cyflymder 20mya gan Lywodraeth y DU yn 2018 nad oedd digon o dystiolaeth bod terfynau 20mya mewn ardaloedd preswyl wedi arwain at newid sylweddol mewn gwrthdrawiadau a damweiniau.

Ar y llaw arall, canfu adolygiad o dystiolaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 fod y dystiolaeth ” yn amrywio rhwng cymedrol a chryf” bod terfyn cyflymder o 20mya yn lleihau anafiadau. Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried tystiolaeth ar ffactorau eraill, gan gynnwys teithio llesol a llygredd aer.

Mae un o’r heriau wrth asesu'r effaith yn deillio o’r ffaith bod dulliau gwahanol o weithredu’r terfyn cyflymder 20mya. Mae’r ardaloedd â therfyn cyflymder yn amrywio o ran maint, ac mae gwahaniaeth rhwng terfynau 20mya hunanorfodol (heb fesurau gostegu traffig), a pharthau 20mya gyda mesurau gostegu traffig. 

Mae enghraifft Belfast, y cyfeiriwyd ati gan y deisebydd sy’n galw am ddiddymu’r ddeddfwriaeth, yn dangos y pwynt hwn.

Yn Belfast, cafodd terfyn cyflymder 20mya ei gyflwyno ar 76 o strydoedd yng nghanol y ddinas yn 2016. Canfu adolygiad dilynol o'r cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, nad oes fawr ddim effaith o ran lleihau gwrthdrawiadau traffig, anafiadau a chyflymder ar y ffyrdd tra bod terfyn cyflymder o 20mya ar waith yng nghanol dinas. 

Fodd bynnag, yn hytrach na phenderfynu bod terfynau o 20mya yn aneffeithiol, daeth yr adolygiad i’r casgliad a ganlyn:

The intervention was implemented at the city centre scale (only 76 streets) in comparison to the recent city-wide intervention in Edinburgh which showed significant reductions in road traffic speed, collisions and casualties. Large scale implementation of 20 mph speed limit interventions may be an important factor for effectiveness (scale).

 

Daeth gwerthusiad 2021 o gynllun ledled dinas Caeredin i'r casgliad ei fod yn gysylltiedig â gostyngiadau ystyrlon mewn cyflymder traffig. Yn ôl adolygiad tair blynedd ar ôl gweithredu, gwelwyd gostyngiad o 30 y cant yn nifer y gwrthdrawiadau a gostyngiad o 31 y cant yn nifer yr anafiadau.

Mae Transport for London wedi canfod canlyniadau tebyg ar gyfer ei gynllun ardal eang, gyda gwrthdrawiadau yn gostwng 25 y cant dros ddwy flynedd hyd at fis Mehefin 2022, a'r rhai sy'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i lawr 24 y cant.

Monitro ac adolygu yng Nghymru

Yr effeithiau yn yr ardaloedd peilot

Fel y nodwyd, cynhaliwyd cynlluniau peilot mewn wyth cymuned ledled Cymru i dreialu terfyn diofyn o 20mya yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol ym mis Medi 2023.

Cyhoeddwyd yr adroddiad monitro cyntaf ar yr effeithiau yn yr ardaloedd peilot ym mis Mawrth 2023, a chyhoeddwyd adroddiad monitro terfynol (ar gyfer yr ardaloedd peilot) ym mis Chwefror 2024. Dyma a ddangosodd y data hyd at fis Mai 2023:

§  newidiadau “mawr cadarnhaol” mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Allweddol ynghylch lleihau cyflymder ac agweddau at deithio llesol;

§  newid “bach cadarnhaol” o ran ymddygiad cerbydau/cerddwyr; a

§  "dim newid amlwg" o ran ansawdd aer lleol a newidiadau "bach negyddol" o ran amser teithio cerbydau, gan gynnwys gostyngiad cyffredinol mewn prydlondeb ar gyfer gwasanaethau bysiau oriau brig.

Monitro'r broses o gyflwyno’r terfyn newydd yn genedlaethol

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddogfen fframwaith monitro ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd yn genedlaethol. Mae’r ddogfen yn nodi'r amcanion polisi a'r dangosyddion sydd i’w defnyddio. Caiff data eu casglu am hyd at bum mlynedd ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd.

O ran amserlenni adrodd, mae’n dweud yn y fframwaith y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad interim ym mis Mehefin 2024 yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod y 6 mis cyntaf ar ôl cyflwyno’r terfyn yn genedlaethol. Disgwylir i adroddiad pellach ar y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Bydd adroddiadau ffurfiol yn cael eu cynnal yn flynyddol ar ôl hynny.

Data monitro cyflymder cynnar

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddata rhagarweiniol ar newidiadau i’r cyflymder cyfartalog ar ôl i’r terfyn newydd gael ei gyflwyno’n genedlaethol. Casglwyd y data ar brif ffyrdd trwodd mewn 43 safle mewn naw anheddiad.

Mae’r data’n dangos i’r cyflymderau cyfartalog ostwng 4mya ar gyfartaledd ar y ffyrdd hyn – o 28.9mya i 24.8mya.

Adolygu’r canllawiau ar eithriadau

Er bod y terfyn diofyn o 20mya bellach ar waith ar ffyrdd cyfyngedig, gall awdurdodau priffyrdd (awdurdodau lleol ar gyfer ffyrdd lleol a Gweinidogion Cymru ar gyfer cefnffyrdd/traffyrdd) ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i newid y terfyn diofyn lle bo’n briodol.

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i awdurdodau priffyrdd ar y broses o bennu eithriadau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dehongli ei chanllawiau ar eithriadau yn wahanol. Felly, mae wedi sefydlu tîm adolygu i ystyried sut y mae'r canllawiau wedi cael eu cymhwyso.

Cyhoeddodd y tîm adolygu ei adroddiad cychwynnol ym mis Chwefror 2024 a disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad terfynol a’r canllawiau drafft wedi’u diweddaru i Lywodraeth Cymru erbyn haf 2024.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Cafwyd ymateb i'r ddeiseb sy’n gwrthwynebu’r polisi (llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 18 Mawrth). Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw ymateb i'r ddeiseb sy’n cefnogi'r polisi mewn da bryd i’w drafod yn y briff hwn.

Yn ei lythyr dyddiedig 18 Mawrth, mae’r cyn-Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS yn cyfeirio at yr astudiaeth o’r hyn a wnaed yn Belfast, sy’n dystiolaeth ym marn y deisebydd nad yw terfynau 20mya yn cael fawr ddim effaith ar wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Dywed y cyn-Ddirprwy Weinidog:

Nid yw astudiaeth Belfast y cyfeirir ati yn y ddeiseb yn gymhariaeth debyg. Mae'r dull Cymreig wedi bod yn hollol wahanol i'r prosiect graddfa fach yn Belfast… [mae astudiaeth Belfast] wedi atgyfnerthu ein dull, fod angen i'r newidiadau ddigwydd ar raddfa a bod yn rhan o newid diwylliannol mwy i'r ffordd yr ydym yn teithio a gweld ein cymunedau lleol, er mwyn elwa ar fanteision go iawn o gyflymder 20mya.

Mae’r llythyr hefyd yn tynnu sylw at y data monitro cyflymder cynnar a gofnodwyd gan Trafnidiaeth Cymru (y cyfeiriwyd atynt uchod yn y papur briffio hwn) a’r adolygiad parhaus o’r canllawiau ar eithriadau.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Ym mis Gorffennaf 2020, roedd dadl yn y Senedd ynghylch cyflwyno terfynau cyflymder diofyn 20mya gyda 45 o’r 53 o Aelodau yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Fel y nodwyd, gosododd Llywodraeth Cymru y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) ym mis Mehefin 2022. Pasiwyd y Gorchymyn drafft gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022. Mae wedi cael ei drafod yn y Senedd ar sawl achlysur.

Ym mis Hydref 2023, bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog ar y polisi.

Mae'r Pwyllgor wedi trafod nifer o ddeisebau sy’n ymwneud â’r polisi yn y gorffennol, gan gynnwys:

§  Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gyflwyno’r terfyn 20mya(a drafodwyd ym mis Ebrill 2022). Bryd hynny, gwnaeth y Pwyllgor gytuno i gau’r ddeiseb oherwydd gallu awdurdodau lleol i newid y terfyn ar ffyrdd lle na fyddai 20mya yn briodol.

§  Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyhoeddus ar leihau’r terfyn cyflymder (a drafodwyd ym mis Hydref 2022). Caewyd y ddeiseb hon hefyd.

§  Deiseb yn galw am arolwg o’r trigolion sy'n byw yn yr ardaloedd peilot (a drafodwyd ym mis Mawrth 2024). Unwaith eto, caewyd y ddeiseb hon yn sgil y gwaith monitro a nodwyd eisoes a oedd yn cael ei wneud drwy Trafnidiaeth Cymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.